National Library of Wales staff to protest on 24 September

Library

National Library of Wales staff to protest on 24 September

Members of the three unions at the National Library of Wales – Prospect, PCS, and FDA – will protest on Wednesday 24 September (tomorrow), between 12 and 1.00pm to draw attention to the institution’s pay problems.



The protest, which is not designed to affect core library services, follows the unions’ joint strike on 10 September which led to closure of the library.

Library staff have not had a consolidated pay rise (ie a permanent pay rise that counts towards pension contributions) since 2009. This has resulted in a 20% real-terms drop in the value of their wages. A number of library staff earn less than the living wage – the minimum the Welsh government has said should be paid to public sector workers.

Union members have rejected the library’s latest pay proposals, including a one-off, unconsolidated payment and a commitment to move towards paying the living wage.

The unions have put costed proposals to the library for a consolidated pay award and changes to the lower grades to ensure that all staff receive the living wage. This would give staff their first pay rise in five years.

Doug Jones, trade union side chair, said: “We understand that the National Library has received several cuts to the yearly budget over the past decade, but continuing a five-year pay freeze, especially when people are earning below the living wage, isn’t sustainable. Other bodies are managing to offer consolidated pay deals to their staff, and we know that the library has the money.

“The library has called our action ‘premature’ and asked for more time. We have been more than patient over the years, trying to give management the opportunity to deal with the cuts, but nothing has changed.

“We are worried for the future of the library, and feel the only way we can make our case is through action. We don’t want to inconvenience our users but we are prepared to undertake a continued programme of action, including strikes.”

Notes for editors

Since 2003, staff have had only one pay increase that matches inflation.

In April the library was forced to withdraw payments to senior staff that substantially increased their salaries – by 10% in some cases.

Prospect, PCS and FDA represent over 75% of library staff. Support for the strike action and action short of strike was endorsed by over 90% of those who voted, with turnout in all cases above 75%.

UNDEBAU LlGC YN GWEITHREDU YMHELLACH AR 24 MEDI

Ar Ddydd Mercher y 24ain o Fedi bydd aelodau’r tri undeb yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Prospect, PCS,  ac FDA - yn ymuno i brotestio rhwng 12.00 ac 1.00 i dynnu sylw at sefyllfa cyflogau’r sefydliad. Mae’r gweithredu hyn, sydd wedi’i gynllunio i beidio ag amharu ar wasanaethau craidd y Llyfrgell, yn dilyn streic ar y cyd ar Fedi 10fed a achosodd i’r Llyfrgell gau.

Nid yw staff y Llyfrgell wedi derbyn codiad cyflog wedi’i gyfuno (sef codiad cyflog sydd yn barhaol ac yn cyfri tuag at gyfraniadau pensiwn) ers 2009, ac mae hyn wedi achosi cwymp yng ngwerth y cyflog o 20% mewn termau real. Erbyn hyn mae nifer o staff y Llyfrgell yn ennill llai na’r Cyflog Byw, sef y lleiafswm y mae Llywodraeth Cymru am i weithwyr y sector gyhoeddus gael eu talu. Y canlyniad yw staff sydd yn cael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd, a sefydliad cenedlaethol sydd yn colli staff medrus a phrofiadol, ac yn methu denu staff newydd gan fod y cyflogau yn anghystadleuol.

Mae cynnig y Llyfrgell yn un sy’n cynnwys taliad unigryw anghyfunol, ac a  gyfeirir ato am ryw rheswm fel “dyfarniad cyflog” – yn ogystal ag ymrwymiad i dalu’r cyflog byw yn y dyfodol, wedi cael ei wrthod gan aelodau’r undebau.

Mae’r undebau yn gofyn am gynnig cyflog sy’n cynnwys codiad cyflog wedi’i gyfuno, yn ogystal â newidiadau i gyflogau bandiau is er mwyn sicrhau’r cyflog byw i bawb. Bydd hyn yn golygu’r codiad cyflog cyntaf i staff ers 5 mlynedd. Mae’r undebau wedi rhoi cynnig, wedi ei gostio i’r rheolwyr sy’n dangos sut y gellir talu’r pecyn hwn gan ddefnyddio arian mae’r Llyfrgell eisoes wedi’i clustnodi.

Meddai Doug Jones ar ran y 3 undeb “ Rydym yn deall bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi derbyn nifer o doriadau yn ei chyllideb flynyddol dros y ddegawd diwethaf, ond nid yw’n gynaladwy i barhau i rhewi cyflogau dros bum mlynedd, yn arbennig tra bod rhai staff yn ennill llai na’r Cyflog Byw. Mae cyrff eraill yn llwyddo i gynnig a chytuno codiadau wedi’u cyfuno i’w staff, ac rydym yn gwybod bod yr arian ar gael.

“Mae galw ein gweithredu yn ‘gynamserol’ yn gamarweiniol dros ben. Rydym wedi bod yn amyneddgar iawn dros y blynyddoedd, gan geisio rhoi cyfle i’r rheolwyr i ddygymod â’r toriadau, ond does dim wedi newid. Nid oedd eisiau aros pan gafodd uwch reolwyr godiad cyflog 10% yn gyfrinachol yn gynharach yn y flwyddyn. Dim ond ar ôl i’r 10% hwn ddod yn gyhoeddus y penderfynodd y Llyfrgell dynnu’r cynnig hwn yn ôl. Rydym yn pryderu am ddyfodol y Llyfrgell, ac rydym yn teimlo mai dim ond trwy weithredu y gallwn gwneud ein hachos. Nid ydym eisiau amharu ar ein darllenwyr, ond rydym yn barod am raglen barhaol o weithredu, gan gynnwys streicio.”

Nodiadau ar gyfer Golygyddion

  • Nid yw staff y Llyfrgell Genedlaethol wedi cael codiad cyflog ers 2009. Dim ond unwaith ers 2003 y cawsant godiad cyflog sy’n cadw i fyny gyda chwyddiant.
  • Rhoddwyd codiadau cyflog gwerth 10% mewn rhai achosion i uwch reolwyr y Llyfrgell yn mis Ebrill. Ceisiodd y Llyfrgell gadw’r wybodaeth hon oddi wrth y staff a’r cyhoedd, ond roedd yn rhaid tynnu’r taliadau yn ôl unwaith daeth yr wybodaeth yn hysbys.

Mae undebau Prospect, PCS ac FDA yn cynrychioli dros 75% o staff y Llyfrgell. Roedd cefnogaeth dros 90% ar gyfer streicio a gweithredu yn llai na streic ymhlith y rhai a bleidleisiodd. Cymerodd dros 75% o aelodau’r undebau ran yn y bleidlais.